Am Cae Post
Cwmni cyfyngedig trwy warant yw Cae Post ac mae'n elusen gofrestredig. Ein hamcanion elusennol yw:

Hyrwyddo addysg a rhoi cymorth i dlodi yn enwedig ymysg pobl ifanc ac oedolion sydd ag anghenion arbennig, trwy ddarparu cyfleusterau hyfforddi er mwyn galluogi'r bobl i gaffael a datblygu sgiliau galwedigaethol i wella eu gobaith am swyddi.

Gwarchod a chadw'r amgylchedd er lles y cyhoedd, trwy hyrwyddo a gweithredu cynlluniau o natur elusennol, gan gynnwys (er nid yn unig) ailgylchu ac ailbrosesu plastig a gwastraff domestig eraill a fyddai'n mynd i gladdfa sbwriel fel arall

Menter gymdeithasol ydym ni, sef rydym yn masnachu fel unrhyw fusnes arall ond yn gwneud hyn am resymau cymdeithasol. Mae menter gymdeithasol yn ffordd o ddarparu gwasanaethau a nwyddau sydd eu hangen yn fawr ar y gymuned, mewn ffordd sy'n broffesiynol ac wedi ei seilio ar y gymuned. Dywedir weithiau fod gan fenter dri nod – sef bod yn broffidiol, bod yn sensitif i faterion amlgycheddol a rhoi manteision i'r gymdeithas.


 

Dewch i wybod mwy am bobl Cae Post
Dewch i wybod mwy am hanes Cae Post

Cofresrwyd yng Nghymru Rhif. 2052675
Elusen Gofrestredig Rhif. 1083202

Rydym yn ymwybodol mor heriol yw hyn ac rydym yn fodlon cyfaddef mai gwaith ar ei hanner yw hyn.

Mae unrhyw arian dros ben neu elw o'n gwaith yn cael ei ailfuddsoddi ac yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo ein nodau. Gallwn chwilio am arian grant i gefnogi rhannau penodol o'n gwaith neu i gynorthwyo gyda gwaith newydd. Mae Cae Post yn cael ei redeg gan staff cyflogedig ac mae'r pwyllgor rheoli, sef yr ymddiriedolwyr a'r cyfarwyddwyr, yn ddi-dâl.