Hanes Cae Post

Sefydlwyd Cae Post yn 1986 gan griw o rieni, gweithwyr proffesiynol a chefnogwyr oedd yn frwd dros gael ffyrdd i bobl ag anableddau dysgu allu byw bywyd mor gyffredin â phosib yn eu cymunedau. Ar y pryd roedd llawer o bobl ag anableddau dysgu yn byw mewn ysbytai am dymor hir neu'n byw i ffwrdd, mewn ysgolion arbennig a chanolfannau dydd.

Cafodd y criw rywfaint o gefnogaeth dan fenter arloesol gan y Swyddfa Gymreig o'r enw Strategaeth Cymru-gyfan, ond roeddent yn bennaf yn dibynnu ar egni a brwdfrydedd rhieni, pobl leol a phobl eraill mewn maes y credid ers tro yn un oedd yn perthyn i fyd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol.

Yr Uchafbwyntiau a'r gwaith hyd yn hynny
• Prosiect preswyl a chyflogaeth – oedd yn darparu gwaith go iawn a phrofiadau “bywyd cyffredin” dros dair blynedd i wyth o bobl ag anableddau dysgu mewn bwthyn (o'r enw Cae Post) ger y Trallwng. Yn y diwedd, penderfynwyd symud i ffwrdd oddi wrth gefnogaeth breswyl, a chanolbwyntio ar brif nod Cae Post sef darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant gwaith.

• Prosiect ymchwil ar gyflogaeth a threialu cynllun lleoliadau gwaith gyda Rheolwr Hyfforddiant lleoliadau gwaith ar y cyd â Rheolwr Hyfforddiant lleol

 

• Am nifer o flynyddoedd bu Cae Post yn gweithio mewn partneriaeth â'r prosiect Trackside Charcoal yn Llanfyllin.

• Ar ôl y prosiect preswyl, sefydlwyd Gwasanaethau Gerddi a Thirlunio. Roedd hwn yn darparu gwaith rhan amser i bobl ag anableddau dysgu a bu'n rhedeg am dair blynedd.

• Wedi hynny, daeth y traddodiad o gynnig gwasanaeth ailgylchu Coed Nadolig yn y Trallwng a'r Drenewydd, ac o hynny daeth gwaith ar y cyd â'r Cyngor Dosbarth

• Y prosiect ailgylchu poteli plastig nawr. Sefydlwyd hwn yn 1996 yn Nhrewern ger y Trallwng. Yn fwy diweddar, adeiladwyd Canolfan Adfer Adnoddau ac mae'n cael ei redeg gan Cae Post gydag arian grant gan Lywodraeth y Cynulliad ac mewn partneriaeth ag Adran Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Powys.

Bellach, mae pobl ag anableddau dysgu yn gwneud cyfraniad mawr i'w cymunedau trwy gynorthwyo gyda'r cynlluniau ailgylchu newydd ar gyfer Powys a thu hwnt. Hefyd, mae Cae Post, trwy'r Fargen Newydd a chynlluniau eraill, wedi cynnig gwaith a hyfforddiant i bobl eraill sy'n wynebu rhwystrau rhag gwaith. Mae Cae Post yn dal i ganolbwyntio ar gynorthwyo a chefnogi pobl sy'n wynebu pob math o rwystrau ac yn dymuno cyfrannu i'w cymunedau trwy waith cyflogedig a heb gyflog ym mhob ffordd bosib.