Mae gan Gae Post bwyllgor rheoli ac mae pob aelod yn wirfoddolwyr ac â diddordeb yn ei nodau ac wedi ymrwymo i weld y gwaith yn llwyddo. Oherwydd strwythur cyfreithiol Cae Post (mae'n gwmni ac yn elusen ar yr un pryd) maent yn ymddiriedolwyr ac yn gyfarwyddwyr hefyd, ac mae ganddynt gyfrifoldebau yn rhinwedd y ddwy swyddogaeth.
Cynhelir y cyfarfodydd yn rheolaidd bob mis, gyda'r nos fel arfer. Gan fod ystod y gwaith wedi cynyddu a nifer y staff wedi cynyddu, mae angen rhagor o sgiliau ac rydym bob amser yn falch o glywed gan bobl sy'n rhannu ein nodau ac a fyddai'n hoffi dod yn rhan o'r prosiect cyffrous yma.
Management Committee:

