Cynhwysedd Cymdeithasol
Mae cynhwysedd cymdeithasol yn rhan allweddol o waith Cae Post, ac mae'n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd i fynd i'r afael ag anfanteision.

Rydym ni'n credu bod cyflogaeth a mynediad at waith yn ganolog i'r ffordd rydym yn ein gweld ein hunain ac y dylai pobl sydd ag amrywiaeth o anableddau gael cyfle i gyfrannu i'w cymuned trwy waith.

.
Mae gwaith Cae Post yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd i gefnogi pobl sydd yn aml yn cael eu rhwystro yn eu cynnydd oherwydd stigma a disgwyliadau isel. Trwy hyrwyddo cyflawniadau unigolion i'r gymuned ehangach mae Cae Post yn gymorth i greu delwedd fwy “cynhwysol” o anableddau dysgu.